Gororau Gogledd Cymru. Gallwch bron iawn ymestyn allan a chyffwrdd â ni. Ni yw'r rhan o Gymru rhwng Caer i'r dwyrain ac Eryri i'r gorllewin. Yn gyfleus iawn ar gyfer y ddau. Hyd yn oed yn well byth fel pen taith ynddo ei hun.
Dyma un o’n ffiniau. Yn union yng nghanol Afon Dyfrdwy. Peidiwch â phoeni, mae yna bont. Fel mae’n digwydd y bont gebl anghymesur fwyaf ym Mhrydain.
Mae'r un mor hawdd croesi’r ffin ar y ffordd neu’r rheilffordd. Os ychydig yn llai dramatig. Yn aml dim ond arwydd croeso ar y llain glas sy’n dangos hynny. Ond yn fuan cewch wybod eich bod wedi cyrraedd rhywle eithaf gwahanol.
Wedi’r cyfan, dyma’r lle ble mae dwy wlad yn cyfarfod. Taith fer yw hi ond mae’n newid mawr mewn awyrgylch, diwylliant a chefn gwlad. Meddyliwch amdano fel croesi draw i’r ochr arall.
Allwch chi ddim bod yma’r holl amser, dyna paham mae’n syniad da i ddod â’ch camera, a hoffem weld unrhyw ffotograffau sy’n dangos harddwch Cymru.
Felly, rydym wedi penderfynu rhoi camera digidol i’r un gorau. Os ydych awydd ymgeisio, rhowch dro ar ein cystadleuaeth ffotograffiaeth.
Uchod:
Eirlysiau gan Glyn Forrester
Dweud eich dweud - Arolwg Cyflym
rheoli'r dorf, yn y dull canol oesol....
Rydym ni'r Cymry wastad wedi bod yn annibynnol. Doedd hynny ddim yn plesio ein cyfeillion dros y ffin yn Lloegr bob tro.
rhowch hoe i chi'ch hunan
Mae mwy a mwy o bobl yn dod i Ororau Gogledd Cymru am wyliau (yn aml rhai rhamantus) byr.
Yn fuan cewch wybod eich bod wedi cyrraedd rhywle eithaf gwahanol. Wedi'r cyfan, dyma'r lle mae dwy wlad yn cyfarfod. Taith fer yw hi ond mae'n newid mawr mewn awyrgylch, diwylliant a chefn gwlad. Meddyliwch amdano fel croesi draw i'r ochr arall.